BTO Cymru are part of a Welsh Irish
project called ECHOES which seeks to understand how climate change will impact
coastal bird habitat of the Irish Sea (in particular that of Curlew and
Greenland White-Fronted Geese), and what effect this could have on our society,
economy, and shared ecosystems
So can we at BTO Cymru invite you to become involved in this
project by asking you to notify kelvin.jones@bto.org of any sightings of Greenland white-fronted
geese over the next few months. Multiple
reports of the same birds are welcome, better to have to many sightings than
miss one.
Mae BTO Cymru yn rhan o brosiect ar y cyd rhwng
Cymru ac Iwerddon o'r enw ECHOES. Bwriad y prosiect yw ceisio deall sut y bydd
newid yn hinsawdd yn effeithio ar gynefin adar arfordirol Môr Iwerddon (yn
enwedig y Gylfinir a Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las) a pha effaith y gall hyn
ei gael ar ein cymdeithas, ein economi, ac ar yr ecosystemau a rennir
Fel rhan o'r prosiect, hoffem gael gwybod am unrhyw wyddau talcen wen yr Ynys Las wrth iddynt gyrraedd yn ôl ac ymgartrefu am y gaeaf. Yn hanesyddol yr oeddent wedi'u dosbarthu'n dda ledled Cymru ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae eu niferoedd wedi syrthio, a bellach dim ond yr haid sy’n dod i aeafu ar aber yr Afon Dyfi ac rhyw ychydig a ddaw i Ynys Môn, yw yr unig rai a welwn y gaeafu yma’n gyson. Fodd bynnag, y mae’r adar weithiau i’w gweld mewn lleoedd annisgwyl ac mae gennym ddiddordeb mawr mewn cael gwybod am y safleoedd ychwanegol hyn, gyda'r bwriad o astudio daearyddiaeth leol, y defnydd o’r tir ac arferion bwydo'r gwyddau.
Felly, hoffai BTO Cymru eich gwahodd i gymryd rhan yn y prosiect hwn drwy ofyn i chi hysbysu kelvin.jones@bto.org am unrhyw gofnod o weld gwyddau talcen wen dros yr ychydig fisoedd nesaf. Mae croeso i chi anfon mwy nac un adroddiad am yr un adar - gwell gennym gael gormod o gofnodion na’n bod yn colli rhai.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect cyfan ewch i https://echoesproj.eu/