BTO Cymru

Croeso i blog BTO Cymru. Welcome to BTO Cymru's blog

Tuesday 16 February 2016

Where do you come from my lovely

On Saturday 23rd January the Ted Breeze Jones Society were on a field trip to Penmon in SE Anglesey. Keen-eyed observers saw a colour-ringed Curlew in a flock and the bird was duly photographed.  Below is a composite of the same bird but showing the colour rings on both legs, left leg black over yellow and right leg green over white. So began the detective work…

 It would seem that the bird was originally ringed by the SCAN group on Traeth Lavan near Bangor on the 28th February 2009. He was subsequently caught on his breeding grounds near Nordhorn, Germany on the 16th May 2010, where the colour rings were fitted. He has been back breeding in this area in the intervening years.
  
So where has this bird been wintering between 2010 and now, somewhere on Anglesey or even further afield?
Not quite as high tech as some of the fantastic new technology, but proven and still vital, and relevant, colour ringing which, despite being old fashioned, is still producing quality data. So keep looking at those legs and reporting the colour rings. You never know just what an important part of the jig-saw you might be completing.



Ddydd Sadwrn, Ionawr 23ain yr oedd aelodau Cymdeithas Ted Breeze Jones ar daith yn ardal Penmon, Sir Fôn. Yn un o’r caeau gwlyb, yr oedd nifer o gylfinir ac wrth edrych dros y lluniau a dynnwyd, fe sylwyd bod un ohonynt â modrwyau lliw ar ei goesau. Y mae llun cyfansawdd o’r aderyn er mwyn dangos y lliwiau ar ei ddwy goes -  du uwchben melyn ar y goes chwith a gwyrdd uwchben gwyn ar ei goes dde. Beth oedd ei hanes? Yr oedd angen gwaith ditectif...

Ymddengys i’r aderyn hwn gael ei fodrwyo gyntaf gan grŵp SCAN ar Draeth Lafan, ger Bangor ar 28ain Chwefror 2009. Cafodd ei ddal drachefn yn ei ardal magu ger Nordhorn, Yr Almaen ar 16eg Mai 2010, a’r adeg honno, fe osodwyd y modrwyau lliw ar ei goesau. Bu’n dychwelyd yn rheolaidd i’r ardal magu yn y blynyddoedd ers hynny.
Tybed ble y bu’r aderyn hwn yn gaeafu ers 2010, ar Ynys Môn ynteu yn rhywle arall?


Nid yw’r defnydd o fodrwyau lliw yn rhywbeth newydd nac yn defnyddio technoleg fodern ond mae yn ddibynadwy ac yn parhau i ddarparu data sy’n hynod werthfawr. Felly daliwch ati i syllu ar y coesau a rhowch wybod am unrhyw fodrwyau lliw a welwch. Wyddoch chi ddim, efallai mai dyna fydd yr union ddarn o’r jig-sô sydd ei angen.