BTO Cymru

Croeso i blog BTO Cymru. Welcome to BTO Cymru's blog

Wednesday, 8 January 2020

Why count Herons? Pam bod angen cyfrif crëhyrod?



                                                                                                     Photo:   Liz Cutting

The BTO Heronries Census began in 1928 as a one-off investigation for the journal British Birds but has matured into an annual survey still ongoing more than 80 years later. Its Grey Heron data represent the longest-running monitoring data set for any breeding bird in the world.

Yn 1928, gwnaeth y BTO gyfrifiad o’r crëyr glas ar gyfer y cyfnodolyn British Birds. Ymchwiliad  unwaith ac am byth oedd hwn i fod, ond y mae wedi aeddfedu i fod yn arolwg blynyddol, sy'n dal i gael ei gynnal dros 80 mlynedd yn ddiweddarach. Eu set o ddata am y crëyr yw’r set monitro mwyaf cynhwysfawr ar gyfer unrhyw aderyn bridio yn y byd erbyn hyn.




The simple aim of the Heronries Census is to collect counts of 'apparently occupied nests' (aon) of herons, egrets, cormorants  and other colonial waterbirds from as many heronries as possible in the United Kingdom each year.

Nod syml Cyfrifiad y Crëyr Glas yw casglu cyfrifiad o’u 'nythod ymddangosiadol' (h.y. rhywle ble y mae’n edrych yn debygol bod nyth yno eleni). Yr adar dan sylw yw’r crëyr glas, crëyr bach, bilidowcar ac adar dŵr tiriogaethol eraill, a gobeithir cofnodi cynifer o grëyrfeydd â phosibl bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.

Many heronries hold a dozen or more nesting pairs, even a hundred or more, and occupy traditional, well-known sites that are active for many decades, and some of the heronries in the census are known to date back to the nineteenth century. Smaller and shorter-lived heronries must also be included in the counts, however, to ensure that the data represent the whole population. Even single nests of any of the normally colonial heron or egret species are relevant to the Heronries Census, even if only occupied for one season.

Mewn llawer i grëyrfa, ceir dwsin neu fwy o barau yn nythu, ond weithiau ceir hyd at gant neu fwy. Ar y cyfan, y mae eu safleoedd nythu yn bur sefydlog - maent yn aros yn yr un llefydd am ddegawdau ac y maent felly yn llefydd eithaf hysbys. Mae rhai o'r crëyrfeydd yn y Cyfrifiad yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, mae yn rhaid cynnwys crëyrfeydd llai a rhai ‘dros dro’ yn y Cyfrifiad, er mwyn sicrhau bod y data'n cynrychioli'r boblogaeth gyfan. Dylid cynnwys hyd yn oed nythod sengl unrhyw un o deulu’r crëhyrod yn y Cyfrifiad - hyd yn oed os mai dim ond am un tymor y maent yno. Mae newidiadau yn nifer y nythod dros amser yn fesur clir o dueddiadau eu poblogaeth. Po fwyaf o grëyrfeydd y gellir eu cyfrif bob blwyddyn, y mwyaf sicr y gallwn fod o dueddiadau poblogaeth ar raddfa genedlaethol, rhanbarthol a lleol. 

Changes in the numbers of nests over time are a clear measure of population trends. The more heronries that can be counted each year, the more certain we can be of population trends at national, regional and local scales. The Welsh trend is similar to the UK trend, although the Welsh trend begins in 1934 due to insufficient coverage in the first few years, with the effects of severe cold weather on herons apparent.

Mae tueddiad Cymru yn debyg i duedd y DU (er bod data Cymru yn dechrau ym 1934 oherwydd diffyg sylw yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf) ac y mae effeithiau tywydd oer difrifol ar y crëyr glas yn amlwg. Mae'r set ddata yma yng Nghymru yn adlewyrchu natur y wlad - gyda digon o ddata ar gyfer yr ardaloedd mwyaf poblog ond mae prinder data ar gyfer mannau eraill.

The dataset here in Wales reflects the nature of the country with good coverage in well inhabited parts of the country and no so in others.  If you feel you would like to take part in this very long running survey, it’s only a couple of visits to your local heronry every spring, and some data entry. If however you feel you would like to do more we are happy to oblige.


Os ydych yn teimlo yr hoffech gymryd rhan yn yr arolwg hwn, dim ond cwpl o ymweliadau â'ch crëyrfa leol fydd ei hangen a hynny yn y gwanwyn, ac wedyn ychydig o fewnbynnu data. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo yr hoffech wneud mwy, byddwn yn ddiolchgar iawn.


We are also in the process of updating our heronries site list. We know that many of our sites which haven’t been visited for some time will have been abandoned by herons but a few of them will still be active or may have been reoccupied, so we are also looking for observers who are willing to explore one or more of these historical sites to see if you can find any signs of recent nesting activity in the area. Although many of these visits will be negative, these confirmed ‘zero counts’ are just as important to us as counts from active sites when it comes to ensuring our population estimates are accurate. Even if herons are no longer present, we are sure that many of the sites will hold other interesting wildlife.

Yr ydym hefyd yn y broses o ddiweddaru ein rhestr o safleoedd nythu y crëhyrod. Gwyddom bod y crëhyrod wedi hen ymadael rhai o'r safleoedd nad ymwelwyd â hwy ers tro, ond efallai y bydd yr adar wedi dychwelyd i rai ohonynt ac yr ydym felly yn awyddus i gael gwirfoddolwyr i archwilio un neu fwy o'r safleoedd hanesyddol hyn i edrych os oes unrhyw arwydd o weithgaredd nythu diweddar yn yr ardal. Er y bydd llawer o’r ymweliadau hyn yn negyddol, mae cadarnhau ‘cyfrif sero’ fel hyn yr un mor bwysig i ni â chyfrifiad fel arall er mwyn sicrhau bod ein hamcangyfrifon poblogaeth yn gywir. Hyd yn oed os nad yw crëyr glas yn bresennol mwyach, yr ydym yn siŵr y bydd llawer o fywyd gwyllt diddorol yn yr ardal.

For more information and local organiser contact details go to the BTO web pages About Heronries Census pages. 

I gael mwy o wybodaeth a manylion cyswllt y trefnydd lleol, ewch i dudalennau gwe BTO About Heronries Census

No comments:

Post a Comment