Photo: Liz Cutting
The BTO Heronries Census began in 1928 as a one-off investigation for
the journal British Birds but has matured into an annual survey
still ongoing more than 80 years later. Its Grey Heron data represent
the longest-running monitoring data set for any breeding bird in the
world.
Yn 1928, gwnaeth y BTO gyfrifiad o’r crëyr glas ar gyfer y cyfnodolyn British Birds. Ymchwiliad unwaith ac am byth oedd hwn i fod, ond y mae wedi aeddfedu i fod yn arolwg blynyddol, sy'n dal i gael ei gynnal dros 80 mlynedd yn ddiweddarach. Eu set o ddata am y crëyr yw’r set monitro mwyaf cynhwysfawr ar gyfer unrhyw aderyn bridio yn y byd erbyn hyn.

The simple aim of the Heronries Census is to
collect counts of 'apparently occupied nests' (aon) of herons, egrets,
cormorants and other colonial waterbirds
from as many heronries as possible in the United Kingdom each year.
Nod syml Cyfrifiad y Crëyr Glas yw casglu cyfrifiad o’u 'nythod ymddangosiadol' (h.y. rhywle ble y mae’n edrych yn debygol bod nyth yno eleni). Yr adar dan sylw yw’r crëyr glas, crëyr bach, bilidowcar ac adar dŵr tiriogaethol eraill, a gobeithir cofnodi cynifer o grëyrfeydd â phosibl bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.

Many heronries hold a dozen or more nesting
pairs, even a hundred or more, and occupy traditional, well-known sites
that are active for many decades, and some of the heronries in the census are
known to date back to the nineteenth century. Smaller and shorter-lived
heronries must also be included in the counts, however, to ensure that the data
represent the whole population. Even single nests of any of the normally
colonial heron or egret species are relevant to the Heronries Census, even if
only occupied for one season.
Mewn llawer i grëyrfa, ceir dwsin neu fwy o barau yn nythu, ond weithiau ceir hyd at gant neu fwy. Ar y cyfan, y mae eu safleoedd nythu yn bur sefydlog - maent yn aros yn yr un llefydd am ddegawdau ac y maent felly yn llefydd eithaf hysbys. Mae rhai o'r crëyrfeydd yn y Cyfrifiad yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, mae yn rhaid cynnwys crëyrfeydd llai a rhai ‘dros dro’ yn y Cyfrifiad, er mwyn sicrhau bod y data'n cynrychioli'r boblogaeth gyfan. Dylid cynnwys hyd yn oed nythod sengl unrhyw un o deulu’r crëhyrod yn y Cyfrifiad - hyd yn oed os mai dim ond am un tymor y maent yno. Mae newidiadau yn nifer y nythod dros amser yn fesur clir o dueddiadau eu poblogaeth. Po fwyaf o grëyrfeydd y gellir eu cyfrif bob blwyddyn, y mwyaf sicr y gallwn fod o dueddiadau poblogaeth ar raddfa genedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Changes in the numbers of nests over time are a
clear measure of population trends. The more heronries that can be counted
each year, the more certain we can be of population trends at national,
regional and local scales. The Welsh trend is similar to the UK
trend, although the Welsh trend begins in 1934 due to insufficient coverage
in the first few years, with the effects of severe cold weather on herons
apparent.
Mae tueddiad Cymru yn debyg i duedd y DU (er bod data Cymru yn dechrau ym 1934 oherwydd diffyg sylw yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf) ac y mae effeithiau tywydd oer difrifol ar y crëyr glas yn amlwg. Mae'r set ddata yma yng Nghymru yn adlewyrchu natur y wlad - gyda digon o ddata ar gyfer yr ardaloedd mwyaf poblog ond mae prinder data ar gyfer mannau eraill.

The dataset here in Wales reflects the nature of
the country with good coverage in well inhabited parts of the country and no so
in others. If you feel you would like to take part in this very long
running survey, it’s only a couple of visits to your local heronry every
spring, and some data entry. If however you feel you would like to do more we
are happy to oblige.
Os ydych yn teimlo yr hoffech gymryd rhan yn yr arolwg hwn, dim ond cwpl o ymweliadau â'ch crëyrfa leol fydd ei hangen a hynny yn y gwanwyn, ac wedyn ychydig o fewnbynnu data. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo yr hoffech wneud mwy, byddwn yn ddiolchgar iawn.
We are also in the process of updating our heronries
site list. We know that many of our sites which haven’t been visited for some
time will have been abandoned by herons but a few of them will still be active
or may have been reoccupied, so we are also looking for observers who are
willing to explore one or more of these historical sites to see if you can find
any signs of recent nesting activity in the area. Although many of these visits
will be negative, these confirmed ‘zero counts’ are just as important to us as
counts from active sites when it comes to ensuring our population estimates are
accurate. Even if herons are no longer present, we are sure that many of the sites
will hold other interesting wildlife.
Yr ydym hefyd yn y broses o ddiweddaru ein rhestr o safleoedd nythu y crëhyrod. Gwyddom bod y crëhyrod wedi hen ymadael rhai o'r safleoedd nad ymwelwyd â hwy ers tro, ond efallai y bydd yr adar wedi dychwelyd i rai ohonynt ac yr ydym felly yn awyddus i gael gwirfoddolwyr i archwilio un neu fwy o'r safleoedd hanesyddol hyn i edrych os oes unrhyw arwydd o weithgaredd nythu diweddar yn yr ardal. Er y bydd llawer o’r ymweliadau hyn yn negyddol, mae cadarnhau ‘cyfrif sero’ fel hyn yr un mor bwysig i ni â chyfrifiad fel arall er mwyn sicrhau bod ein hamcangyfrifon poblogaeth yn gywir. Hyd yn oed os nad yw crëyr glas yn bresennol mwyach, yr ydym yn siŵr y bydd llawer o fywyd gwyllt diddorol yn yr ardal.

For more information and local organiser contact
details go to the BTO web pages About Heronries Census pages.
I gael mwy o wybodaeth a manylion cyswllt y trefnydd lleol, ewch i dudalennau gwe BTO About Heronries Census