BTO Cymru

Croeso i blog BTO Cymru. Welcome to BTO Cymru's blog

Thursday 18 April 2019

Diwrnod Gylfinir Rhyngwladol



I ddathlu ddiwrnod rhyngwladol y Gylfinir, dyma i chi fwynhau erthygyl ar holl enwau y Gylfinir sydd yn cael ei defnyddio ar draws Cymru 


                                                                                                                           Photo John Harding

  Dy alwad glywir hanner dydd 
        Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos
                        Fel chwiban bugail a fo gudd                   
                        Dy alwad glywir hanner nos;                   
                      Nes clywir,pan ddistawa sŵn                   
                   Cyfarth dy anweledig gŵn                     

                                                               R Williams Parry

O holl alwadau adar Cymru, siwr o fod mai galwad y gylfinir yw’r mwyaf hudolus.

Yma yng Nghymru aderyn sy’n nythu ar yr ucheldiroedd yn bennaf yw’r gylfinir.Yn anffodus mae ei niferoedd wedi gostwng yn sylweddol iawn dros y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf.
Ar un adeg roedd yn aderyn eithaf cyffredin yn ystod y tymor magu a’r ffaith yma sydd wedi rhoi iddi nifer o enwau llafar gwlad. Yn fras gellir dosbarthu yr enwau llafar gwlad i dri dosbarth; enwau sy’n cyfeirio at ymddangosiad yr aderyn, enwau sy’n cyfeirio at  alwad neu gri yr aderyn ac yna enwau sy’n cyfeirio at leoliad neu dymor nythu’r aderyn.
Y mae’r enw safonol Cymraeg wrth gwrs yn cyfeirio at y pig hir sydd gan yr aderyn. Yn yr un modd ceir nifer o enwau llafar gwlad sy’n cyfeirio at yr un nodwedd amlwg yma. Ar lafar gwlad ceir  Y gylfinhir, gylfinir fawr(yr enw yma yn gwahaniaethu’r coegylfinir), glifinir, gilfainhir, Pegi big hir, gylfiniog, glifirin a glafinir.

Wrth droi at yr enwau sydd yn cyfeirio at alwad yr aderyn fe gawn; ciarliw, cwrlig, cwrlip, chwibannwr, cwliwn, cwrlif, cwrlin, whibanwr, cyrliw, a cyrliwn.

Ceir dau enw sydd yn cyfuno galwad yr aderyn â’i gynefin yn ystod y tymor magu sef, chwibanogl y mynydd a chwibanog y mynydd.

O droi at yr enwau sydd yn cysylltu’r aderyn â’i safle neu ardal nythu ceir yr enwau canlynol , cornicyll y waun (sydd hefyd yn enw llafar ar y gornchwiglen) ac yna cŵn Ebrill a cog Cwm Nant yr Eira.
Mae’r enw cŵn Ebrill (enw a ddefnyddir hefyd ar y coegylfinir) yn cyfeirio at y cyfnod pan fydd yr adar yn dychwelyd at eu safleoedd magu sef canol y gwanwyn. Yn yr un modd mae’r enw hyfryd, cog Cwm Nant yr Eira nid yn unig yn cyfeirio at y cyfnod nythu(sef y cyfnod pan fydd y gog yn dychwelyd) ond hefyd yn ei leoli i ardal benodol yng Nghymru sef Cwm Nant yr Eira ym Maldwyn. 


Dewi Lewis
Clydach. 




No comments:

Post a Comment